Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Mawrth 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gareth Davies (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy
(15 munud)
NDM8240 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy Ddirprwy', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes
7 Cynnig i addasu Rheolau Sefydlog - Newidiadau amrywiol
(5 munud)
NDM8241 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
8 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil twristiaeth Cymru
(30 munud)
NDM8232 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;
b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;
c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;
ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru;
iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;
iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a
v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol
(60 munud)
NDM8238 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi yr amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.
2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth cyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth cyngor mor isel â phosibl;
c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd gormodol yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol a chael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac yn croesawu'r ymrwymiad drwy’r Cytundeb Cydweithio i wneud y system yn decach ac yn fwy blaengar;
Yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol yn 2022-2023 a 2023-24 a'r heriau ariannu sy'n wynebu'r awdurdodau serch hynny.
Yn nodi bod treth cyngor band D ar gyfartaledd yng Nghymru £186 yn llai na'r cyfartaledd yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol;
b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad.
Yn croesawu'r ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal lliniarol
(60 munud)
NDM8239 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
1. Yn nodi'r adroddiad y Grwp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol ar brofiadau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19.
2. Yn cydnabod bod gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod pandemig COVID-19, a bod y gofal hwnnw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt o ran cefnogi cleifion a'u teuluoedd.
3. Yn gresynu at y ffaith bod rhai pobl wedi wynebu anawsterau yn ystod pandemig COVID-19, o ran cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, er gwaethaf ymdrechion gorau'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
4. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040 a bod y pandemig wedi rhoi cipolwg o sut y bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol agos.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r sector gofal lliniarol i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal lliniarol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol;
b) blaenoriaethu datblygu gallu gofal lliniarol yn y gymuned, uwchraddio arferion da sy'n bodoli eisoes, a dal pawb sy'n agos i gleifion, gan gynnwys plant;
c) sicrhau bod penderfyniadau gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu llesiant, staffio, addysg ac anghenion hyfforddi'r rhai sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal lliniarol a diwedd oes.
Cross Party Group on Hospice and Palliative Care’s Inquiry: Experiences of palliative and end of life care in the community during the COVID-19 pandemic (Saesneg yn unig)
11 Cyfnod Pleidleisio
12 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8237 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Endometriosis a'r cynllun iechyd menywod yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Llun, 24 Ebrill 2023